Rhwystrau Rhag Cynnwys Pobl
Templed ar gyfer trafodaeth grŵp

Beth yw hwn?

Gellir defnyddio’r templed hwn i annog trafodaethau grŵp ar gynnwys.

Beth yw ei ddiben?

Mae’r templed yn seiliedig ar y rhestr wirio o rwystrau rhag cynnwys pobl ac mae’n rhoi amlinelliad o’r ffordd y gellir trafod y rhwystrau hynny. Ceir cyfle hefyd i feddwl pa rwystrau sydd yn arbennig o berthnasol o ran y mater sydd dan sylw.
Yn y Prosiect Cynnwys 50+ hwn, roedd y dasg hon yn llwyddiannus iawn.

Rhwystrau Rhag Cynnwys Dinasyddion 50+ - eich barn chi

  • Beth yw eich ymateb i safbwynt pobl hŷn am y rhwystrau a restrwyd?
    • a ydynt yn wir?
    • a oes mwy?
    • ymatebion eraill?
  • Eich ymatebion i safbwynt y gweithwyr proffesiynol am y rhwystrau a restrwyd?
    • a ydynt yn wir?
    • a oes mwy?
    • ymatebion eraill?
  • Pa rai yw’r rhwystrau pwysicaf, i chi, o ran cynnwys pobl?
  • Adrodd yn ôl: fel y dymuna eich grŵp