English | hawlfraint / ymwadiad | gwefeistr | hafan tudalen cbsc  
   
 

Ble a sut i ddod o hyd i ni
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaeth Bws
Mae gwasanaethau bws amrywiol yn rhedeg naill ai i Goed Duon neu Drecelyn o Gasnewydd, Brynmawr, Caerdydd, Cwmbrân, Glyn Ebwy, Pont-y-pwl, Pontypridd a Thredegar.

Mae Gwasanaeth Bws 5, a weithredir gan Islwyn Borough Transport, yn rhedeg bob awr rhwng Coed Duon, Oakdale a Threcelyn, gyda bysiau ychwanegol yn rhedeg yn ystod y dydd rhwng Coed Duon, Oakdale a Chroespenmaen, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r brif arosfan bysiau yn Heol Pandy, Croespenmaen, o fewn 5 munud ar droed i'r Parc Busnes. Yn ystod oriau brig, mae bysiau yn rhedeg i'r Parc Busnes drwy Parkway i gyffordd Rush Way ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.

Gwasanaeth Trên
Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn rhedeg o Gaerdydd i Orsaf Ystrad Mynach. Mae Gwasanaeth Bws RL5 yn darparu cysylltiad rhwng Gorsaf Ystrad Mynach a Choed Duon. Cynlluniwyd y gwasanaeth i gwrdd â threnau ar amseroedd cyfleus, a gellir prynu un tocyn i deithio ar y trên a’r bws.

Bydd ailagoriad arfaethedig llinell Cwm Ebwy, gyda gorsafoedd newydd yng Nglyn Ebwy, Llanhiledd, Trecelyn, Rhisga a Thŷ-du, yn darparu system integredig gyda gwasanaethau bws i Barc Busnes Oakdale, a chynlluniau Parcio a Theithio. Gall hyn fod yn weithredol erbyn 2007.

Fersiwn addas i argraffu Fersiwn addas i argraffu | Yn ôl

Cludiant Cyhoeddus
Cludiant Cyhoeddus
Cludiant Cyhoeddus