Ble a sut i ddod o hyd i ni
Ffordd Fenter Sirhywi |
Cludiant Cyhoeddus
Gall lleoliad Bwrdeistref Sirol
Caerffili rhwng Caerdydd, prifddinas
Cymru i'r de, a Pharc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog i'r gogledd,
ddarparu lleoliad amgen gwell ar
gyfer eich busnes, gan ddarparu'r
holl hanfodion ar gyfer ansawdd
bywyd rhagorol.
Map: Rhwydweithiau’r prif ffyrdd
Lleolir Parc Busnes Oakdale ar
gyrion ochr ddwyreiniol Bwrdeistref
Sirol Caerffili, tua 11 milltir
i'r gogledd o gyffordd 28 yr M4.
Bydd gan Barc Busnes Oakdale ei
ffordd fynediad ei hun, a fydd yn
ei gysylltu â'r A472 ym Mhontllan-fraith,
gan sicrhau y bydd deiliaid y dyfodol
o fewn 5 munud i ganol tref Coed
Duon. Bwriedir cwblhau'r ffordd
hon, Ffordd
Fenter Sirhywi a'r ddau gyswllt
allweddol ar draws y cwm, erbyn
gwanwyn 2006. .
Mae'r safle 170 erw gyferbyn ag
ystâd ddiwydiannol hynod lwyddiannus
Pen-y-fan, sy'n gartref i gwmnïau
megis Atlantic Technology UK Ltd,
FIAMM UK Ltd a Venturepak.
Map: Rhwydwaith Prif Ffyrdd De Ddwyrain Cymru
Mae cylchfan yn darparu mynediad
uniongyrchol o Parkway, sef y brif
ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol
Pen-y-fan, ac mae hyn yn rhoi mynediad
uniongyrchol i'r ddau lwyfandir
mwyaf, sef llwyfandiroedd 1 a 2.
Ariannwyd seilwaith y safle drwy
Her Cyfalaf Cymru, gyda chylchfan
yn darparu mynediad uniongyrchol
i Lwyfandir 1 a 2. Mae ffordd yn
rhedeg trwy'r safle cyfan sy'n darparu
mynediad i'r llwyfandiroedd is.
Mae Ffordd Gyswllt Pentref Oakdale
yn cysylltu'r Parc Busnes â
datblygiad preswyl o'r radd flaenaf
gan Redrow ar gyrion pentref Oakdale.
Gwnaethpwyd gwelliannau i'r B4251
ar Fryn Kendon sy'n arwain i Ystâd
Ddiwydiannol Pen-y-fan. Caiff mynediad
hir dymor ei ddarparu yn sgîl
adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi.
Fersiwn addas i argraffu |