English | hawlfraint / ymwadiad | gwefeistr | hafan tudalen cbsc  
 
 

Ad-ennill Tir
Mae’r cynllun wedi cymryd dros 10 mlynedd i’w gwblhau, a symudodd y contractwr peirianneg sifil Walters UK Ltd 4 miliwn metr ciwbig o bridd yn ystod 4 blynedd olaf y cynllun. Mae’r prosiect adfer tir sylweddol hwn wedi arwain at greu y llwyfandir mwyaf, sy’n 100 erw o faint, sydd ar gael i’w ddatblygu yng Nghymoedd y De.

Buddsoddwyd tua £1.8 miliwn yn y gwaith adfer tir gan yr Undeb Ewropeaidd, cyllid a roddwyd i Awdurdod Datblygu Cymru. Roedd cam cyntaf y gwaith adfer yn cynnwys clirio adeiladau’r lofa, a pheth gwaith ar gadw’r afon. Roedd Cam 2 yn cynnwys aildrefnu’r brif fynedfa, a Cham 3 oedd y cloddwaith sylweddol, yn cynnwys caffael tir - £10 miliwn oedd cyfanswm cost y gwaith adfer tir. Symudwyd cyfanswm syfrdanol o 4 miliwn metr ciwbig o ddeunydd yn ystod y 4 blynedd olaf, wrth i ddwy domen fawr gael eu lefelu i ddarparu 4 llwyfandir datblygu, dros 170 erw.

Yn ystod y prif gloddwaith adeiladwyd cyfres o lagwnau gwaddodi ar y llwyfandir isaf (4). Darparodd y lagwnau hyn wahanfur pwysig i amddiffyn ecosystem fregus Afon Sirhywi, sy’n gorwedd mewn cwm rhychog 300 troedfedd islaw’r brif safle. Mae’r planhigfeydd ar y llethrau wedi ymsefydlu mor dda erbyn hyn fel nad oes angen darparu gwahanfur ffisegol ar gyfer yr afon islaw. Cliriwyd pob lagŵn ond un, sydd wedi cael ei lanhau a’i gadw fel nodwedd.

I weld yr Adroddiadau Peirianegol E-bostiwch Gareth Porter, Rheolwr Eiddo.

Fersiwn addas i argraffu Fersiwn addas i argraffu

Ad-ennill
Ad-ennill
Logo Undeb Ewropeaidd Amcan 1