|
Parc Busnes Oakdale
Mae'r gwaith o adfywio a datblygu
hen safle Pwll Glo Oakdale yn esiampl
wych o ddatblygiad sy'n cwmpasu
gweledigaeth strategol hirdymor
gyda gweithio mewn partneriaeth
er mwyn cael mynediad i ystod o
ffynonellau cyllido yn cynnwys yr
Undeb Ewropeaidd. Mae'r datblygiad
wedi bod yn sensitif i anghenion
y gymuned a'r amgylchedd, ac mae'n
parhau i fod felly.
Hen safle Pwll Glo Oakdale yw'r
safle 400 erw, a chymerodd chwe
mlynedd a dros £10 miliwn
i'w adfer, gan greu un o'r llwyfandiroedd
mwyaf yng Nghymoedd y de sy'n cwmpasu
dros 100 erw. Wedi iddo gael ei
gwblhau, mae gan y Parc Busnes y
potensial i greu 5,000 o swyddi
newydd ar gyfer yr economi leol,
gwerth £100 miliwn y flwyddyn.
Mae'r safle eisoes wedi denu prosiectau
mewnfuddsoddi sylweddol, ac mae
cynigion i ddatblygu'r safle yn
y dyfodol, gan ddarparu cymysgedd
o adeiladau i ddiwallu anghenion
busnesau modern.
Fersiwn addas i argraffu |