Cyllid ar gyfer Parc Busnes Oakdale
Mae Parc Busnes Oakdale yn elwa ar ei leoliad o fewn ardal a gynorthwyir, ac wedi denu lefelau uchel o gymorth grantiau drwy’r cynlluniau adfer tir a’r gwaith i ddatblygu’r safle blaenllaw hwn. Yn ogystal, gall busnesau cymwys sy’n lleoli ym Mharc Busnes Oakdale elwa ar gymorth grant.
Adfer Tir a Thirlunio
Ariannwyd y gwaith o adfer y safle yn rhannol gan yr
Undeb Ewropeaidd a roddodd grant i
Awdurdod Datblygu Cymru.
Ariannwyd y gwelliannau amgylcheddol, yn cynnwys y gwaith plannu a datblygiad y Cynllun Rheoli Tirwedd, drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru.
Cyllidwyd rhwydwaith y strwythur drwy'r Cynllun Her Cyfalaf Cymru , gyda'r cylchfan wrth y fynedfa yn darparu ffordd gyfleus o gyrraedd Llwyfandiroedd 1 a 2. O'r un gronfa daw'r arian i wneud y fordd sy'n rhedeg drwy'r holl safle. Mae gwaith gwella i gyrraedd y safle o Fryn Kendon hefyd wedi dod o'r un gronfa.
Datblygiadau
Mae cyfnod cyntaf datblygu Llwyfandir 2, 60,000 troedfedd sgwâr o le diwydiannol, wedi ei gyllido o'r Cynllun Her Cyfalaf Cymru a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd mewn cyd-fenter rhwng y Cyngor a'r ADC.
Mae'r ail gyfnod gan y Cyngor a'r ADC wedi ei ariannu drwy gyllid Amcan 1 Ewropeaidd a'r Gronfa Adfywio Lleol ac yn darparu 100,000
troedfedd sgwâr o le diwydiannol o ansawdd.
Mae'r Cyngor a'r ADC ill dau wedi gosod bidiau cyflewnol ar gyfer yr arian sydd wedi darparu cynnig o eiddo na welwyd yn yr ardal erioed o'r blaen.
Mae'r Cynllun Her Cyfalaf Cymru wedi cael ei ddisodli gan y Gronfa Adfywio Lleol, sy'n cael ei reoli gan WEFO.
Fersiwn addas i argraffu |