English | hawlfraint / ymwadiad | gwefeistr | hafan tudalen cbsc  
 
 

Datblygiadau Diweddaraf
Bryn Brithdir | Y Pafiliynau | Y Goeden Geirios
Mae portffolio o ddatblygiad cymysg wedi ei gynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn amrywio o unedau diwydiannol i ganolfan arloesi gyda’r offer diweddaraf, a bydd yn bwrw ymlaen gyda datblygiad Parc Busnes Oakdale, gan adeiladu ar lwyddiant camau 1 a 2. Mae’r portffolio arfaethedig yn amlinellu cam nesaf cyfres o ddatblygiadau graddol i greu cyfanswm o 150,000 troedfedd sgwâr o adeiladau busnes o ansawdd mewn tri lleoliad strategol o fewn y safle 170 erw, er mwyn darparu ystod o adeiladau sy’n canolbwyntio ar anghenion busnesau sydd wedi eu lleoli yn yr ardal, neu sy’n bwriadu symud i’r ardal. Disgwylir iddynt ddarparu’r symbyliad a’r catalydd ar gyfer buddsoddiad sector preifat dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r cynnig hwn yn ffurfio rhan o raglen adeiladu cyfalaf barhaus y Cyngor, sy’n cydnabod yr angen am ystod o adeiladau sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau a defnyddwyr. Bydd parc swyddfeydd porth y de yn darparu adeiladau swyddfa ychwanegol yn Oakdale, o fewn cyrraedd canol tref llewyrchus Coed Duon. Ar ôl cwblhau Ffordd Fenter Sirhywi - bydd y swyddfeydd o fewn pum munud i ganol y dref.

Fersiwn addas i argraffu Fersiwn addas i argraffu

Datblygiadau Diweddaraf
Datblygiadau Diweddaraf
Datblygiadau Diweddaraf