Ble
a sut i ddod o hyd i ni
Bydd mynediad i Barc
Busnes Oakdale yn cael ei wella
yn sgîl adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru
wedi cymeradwyo credydau'r Fenter
Cyllid Preifat (M.C.P) i ddylunio,
adeiladu, ariannu a gweithredu Ffordd
Fenter Sirhywi.
Map: Map
lleoliad Ffordd Fenter Sirhywi
Bydd y ffordd arfaethedig hon o
ansawdd uchel yn cryfhau rhwydwaith
strategol y priffyrdd yng Nghwm
Sirhywi, gyda mynediad i'r parc
busnes ar y pen gorllewinol. Bydd
tua 4.3km o ffordd sengl yn cynnwys
dau gyswllt allweddol ar draws y
cwm. Amcangyfrif y gost cyfalaf
yw £38 miliwn.
Dewiswyd Sirhowy Enterprise Way
Ltd, partneriaeth rhwng Laing Investments
a Costain, i ddylunio, adeiladu,
ariannu a gweithredu Ffordd Fenter
Sirhywi am 30 mlynedd.
Mae'r gwaith o adeiladu Ffordd
Fenter Sirhywi yn allweddol i ddatblygiad
llawn Parc Busnes Sirhywi, a dechreuodd
gwaith ar y safle ym mis Ionawr
2004. Mae'r Cyngor wedi gwarantu
y bydd yr effeithiau amgylcheddol
mor fach â phosibl.
Bydd y cynllun, sydd wrth galon
y fwrdeistref sirol, yn gwella rhwydwaith
strategol priffyrdd yr A4048/A472
i'r gogledd o Goed Duon ac i'r dwyrain
o Bontllan-fraith, yn ogystal â
darparu ffordd fynediad i Barc Busnes
Oakdale.
Fersiwn
addas i argraffu | Yn
ôl |