|
Tir ar gael ym Mharc Busnes Oakdale
Llwyfandir 1
|
| Llwyfandir 3
| Llwyfandir 4
Yn 50 erw (20.23 hectar) o faint,
hwn yw’r llwyfandir mwyaf
ond un ar Barc Busnes Oakdale, ac
mae wedi bod yn destun rhaglen ddatblygu
gan y Cyngor ac Awdurdod Datblygu.
Mae’r safle gyferbyn ag Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan, wrth fynediad dwyreiniol Parc Busnes Oakdale. Mae ganddo fynediad uniongyrchol i gylchfan a adeiladwyd oddi ar Parkway, y prif ffordd drwy Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer Canolfan Arloesi rhwng Parc Busnes Oakdale ac Ystâd Ddiwydiannol
Pen-y-fan, ger y gylchfan sy’n rhoi mynediad i’r safle. Bydd yr adeilad swyddfa dau lawr yn darparu rhyw fath o borth i Barc Busnes Oakdale.
Mae’r Cyngor wedi gwneud cynigion ar gyfer nifer o ddatblygiadau pellach ar y safle hwn, sy’n amodol ar sicrhau cyllid. Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn ddiweddar ar gyfer 6 uned fusnes arall, tua 465 metr sgwâr.
Maint: 50 erw (20.23 hectar)
Fersiwn
addas i argraffu |
Ymwadiad
tir |
Yn
ôl |