|
Tir ar gael ym Mharc Busnes Oakdale
| Llwyfandir 2
|Llwyfandir 3
| Llwyfandir 4
Hwn yw'r llwyfandir mwyaf sydd ar
gael ar gyfer datblygu yng Nghymoedd
y de, gyda golygfeydd dros Gwm Sirhywi.
Mae datblygiad y llwyfandir hwn
yn dibynnu ar adeiladu Ffordd
Fenter Sirhywi a dechreuodd
gwaith ym mis Ionawr 2004 ar y ffordd
ansawdd uchel hon. Disgwylir i Ffordd
Fenter Sirhywi gael ei chwblhau
yn 2006.
Mae'r safle hwn gyferbyn ag Ystâd
Ddiwydiannol Pen-y-fan, wrth fynedfa
ddwyreiniol Parc Busnes Oakdale.
Mae ganddo fynediad uniongyrchol
i gylchfan a adeiladwyd oddi ar
Parkway, sef y brif ffordd drwy
Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio
yn ddiweddar ar gyfer Canolfan
Arloesi rhwng Parc Busnes Oakdale
ac Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-fan,
ger y gylchfan sy'n rhoi mynediad
i'r safle. Bydd yr adeilad swyddfa
dau lawr yn darparu rhyw fath o
borth i Barc Busnes Oakdale.
Ar hyn o bryd mae Llwyfandir 1 wedi ei gadw ar gyfer un defnyddiwr mawr. Nid oes cynigion datblygu ar y safle hwn ar hyn o bryd.
Maint: 100 erw (20.23 hectar)
Fersiwn addas i argraffu | Ymwadiad tir | Yn ôl |