Prosiect Caer Rufeinig Gelligaer
Yn aml iawn rydym yn cymryd hanes cymuned yn ganiataol - a dyma ddigwyddodd yng Ngelligaer. Roedd y mwyafrif o’r trigolion yn gwybod bod caer - ond ychydig iawn ohonynt oedd yn gwybod ymhle ydoedd a’r rhan a chwaraeodd yn y feddiannaeth Rufeinig ar Gymru. Mae Cadw wrth eu boddau bod y gaer mewn cae ffermwr lle mae’n cael ei chadw a’i chynnal.
Mae Partneriaeth Gelligaer a Phen-y-Bryn, Cyngor Cymuned Gelligaer a Chymdeithas Hanesyddol Gelligaer wedi cydweithio i lunio cynllun a fydd yn codi proffil y gaer i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ar ôl diffinio eu gweledigaeth, (sicrhawyd arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig), mae’r gymuned wedi gweithio gyda pherchennog y tir i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau i bawb – proses a gymerodd tua 5 mlynedd:
- Deunyddiau Addysg i ysgolion cynradd gan gynnwys lle dysgu awyr agored gerllaw’r gaer
- Taflen yn rhestru teithiau cerdded a llwybr cliwiau i blant iau
- Digwyddiadau
- Gwybodaeth a llinell ffens ddeongliadol newydd i ddangos lleoliad y gaer
- Arweinlyfr newydd
- Gwefan, map rhyngweithiol a ffilmiau o gymeriadau a fyddai wedi byw yn yr ardal efallai
Mae stori’r gaer wedi’i hadrodd ar nifer o lefelau:
- Y milwyr Rhufeinig Ategol oedd wedi dod i mewn i’r ardal
- Y Silures sef y boblogaeth frodorol
- Yr Archeolegwyr Edwardaidd brwdfrydig a ddadorchuddiodd y safle ar ddiwedd y 19eg ganrif- gan brofi’r straeon bod caer Rufeinig wedi’i chuddio yn y cae yma
Mae prosiect Caer Rufeinig Gelligaer wedi’i yrru gan grŵp penderfynol o bobl o fewn y gymuned sydd wedi ymdrechu gyda biwrocratiaeth a hynodrwydd y cyfundrefnau ariannu i ddod â stori’r ardal yn fyw unwaith eto.