Brandio

image

 

Mae Prosiect y Gaer Rufeinig wedi datblygu brandio nodedig sydd i’w gael ar y deunydd cyhoeddus i gyd. Mae’r brandio wedi’i seilio ar:

  • Y pethau a ganfuwyd a’r arteffactau sy’n gysylltiedig â Gelligaer
  • Amrywiaeth o liwiau a gafodd eu hysbrydoli gan yr eitemau hyn
  • Logo sy’n dod â’r lliwiau a’r arteffactau ynghyd

I helpu pobl eraill i gynhyrchu eitemau sy’n adeiladu ar y brandio yma, cynhyrchwyd cyfres o eitemau eraill hefyd:

  • Canllaw i’r brandio – yn cynnwys gwybodaeth am y ffontiau, lliwiau, ac ati
  • Posteri sylfaenol y gallwch eu defnyddio gyda lluniau neu heb luniau i hysbysebu digwyddiadau bach neu fawr. Gallwch roi cyfres o ddarluniau neu ddarlun unigol yn yr adran luniau.
  • Penawdau llythyru

Hefyd, mae nifer o ddelweddau wedi’u cynhyrchu ac maent ar gael gan Bartneriaeth Gelligaer a Phen-y-Bryn neu gan Gyngor Cymuned Gelligaer. Gallwch ddefnyddio’r rhain ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn rhai masnachol sy’n adrodd hanes Gelligaer.

Dogfennau y gellir eu lawrlwytho