Gelligaer Ddiwydiannol

Mae Gelligaer yn anarferol yn Ne Cymru am ei bod wedi cadw ei heconomi amaethyddol hyd yn weddol ddiweddar. Fodd bynnag, roedd diwydiannau graddfa fechan i’w cael yma mor bell yn ôl â 1478 – mae cofnod o Ffowndri Llancaiach yn y flwyddyn hon. Roedd hefyd nifer o byllau bychain a chloddfeydd drifft yn dod â glo allan o’r tir, ac mae hyd yn oed hanes am Derfysg Gelligaer pan ddaeth bradwyr i mewn i lefel Gelliargwellt i wneud gwaith y glowyr oedd ar streic. Cafodd y sefyllfa hon ei datrys ymhen hir a hwyr drwy iddynt dyngu llw ar badell frio!!!! Gallwch ddarllen y stori gyfan yn “Gelligaer a place in history" (pdf, 4.1Mb).

Daeth addysg yn “ddiwydiant” yr oedd Gelligaer yn enwog iawn amdano - wedi i Edward Lewis adael arian i agor ysgol i 15 o fechgyn tlawd y Plwyf. Ar ôl gohirio am wahanol resymau, agorodd yr ysgol o’r diwedd ar Awst 1af 1762 ar safle gerllaw’r Gaer Rufeinig. Crëwyd yr ysgol hon ymhell o flaen ei hamser – dim ond yn 1880 y sefydlwyd addysg i bawb.