1 RHAGAIR
Ein pwrpas canolog yw cefnogi cymunedau
cynaliadwy a chydnerth ar draws y Fwrdeistref
Sirol. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym
wedi rheoli’r tyndra rhwng cyllid llai a’r galwadau
cynyddol am wasanaethau. Mae’r bwlch yn dal i
gynyddu, ac er mwyn ffynnu yn yr amgylchedd
newydd hwn, mae angen ffordd newydd o
feddwl. Rydym yn Gyngor cryf a chydnerth
sydd â gwybodaeth fanwl am ein pobl a’n
lle, felly rydym mewn sefyllfa dda i wynebu’r
her ac achub ar y cyfleoedd.
Cyng. David Poole, Arweinydd a Christina Harrhy, Prif Weithredwr Dros Dro
MWY